Cynllun Iaith Gymraeg

Mae Cyngor Tref Caernarfon wedi mabwysiadu’r egwyddor, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, y bydd yn trin y Gymraeg â’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Mae’r cynllun hwn yn nodi sut y bydd y Cyngor yn gweithredu’r egwyddor honno wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghaernarfon

Mae’r Cyngor yn cydnabod y gall aelodau’r cyhoedd fynegi eu barn a’u hanghenion yn well yn eu dewis iaith, mai mater o arfer da yn hytrach na goddefgarwch yw eu galluogi i ddefnyddio’u dewis iaith ac y gall gwadu’r hawl i ddefnyddio eu dewis iaith eu rhoi mewn sefyllfa anfanteisiol. Bydd y Cyngor felly yn cynnig i’r cyhoedd yr hawl i ddewis pa iaith i’w ddefnyddio wrth ymdrin ag ef.

Nod y Cyngor mewn perthynas â’r Cynllun hwn yw:

  • galluogi pawb sydd yn defnyddio gwasanaeth neu drafod gyda’r Cyngor neu’n cyfrannu at y broses ddemocrataidd i wneud hyn trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg yn ôl dewis personol yr unigolyn.
  • hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned.
  • annog eraill i hyrwyddo a defnyddio’r Gymraeg yn y gymuned.

Ymhlith prif ddyletswyddau’r Cyngor mae:

  • ystyried materion cynllunio;
  • awgrymu gwelliannau yn ymwneud â phriffyrdd;
  • cydweithio â’r heddlu i ddiogelu’r gymuned;
  • darparu goleuadau Nadolig yn flynyddol;
  • rhoi cymorth ariannol i nifer o fudiadau gwirfoddol ac elusennol;
  • gofalu am cysgodfannau bysus y dref
  • penodi cynrychiolwyr ar nifer o gyrff lleol ac allanol.

Mae gan y Cyngor 17 o aelodau etholedig, ac mae’r Clerc yn gweithio’n llawn amser.

Mae nifer o grwpiau cymdeithasol, diwylliannol a chymunedol yn chwarae rhan flaenllaw ym mywyd yr ardal. Mae’r Cyngor yn gweithio i hyrwyddo datblygiadau cymunedol a gweithgareddau cymdeithasol gan ymateb i anghenion lleol er mwyn gwella safonau byw yn yr ardal.

Wrth lunio neu ystyried polisïau a mentrau newydd, bydd y Cyngor yn:

  • asesu eu heffaith ieithyddol gan ofalu eu bod yn gyson â’r Cynllun Iaith;
  • hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r Gymraeg pryd bynnag y bydd hynny’n bosibl, ac yn symud yn nes at weithredu’r egwyddor o gydraddoldeb yn llawn bob cyfle a ddaw;
  • ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ymlaen llaw ynglŷn ag unrhyw fwriad fyddai’n effeithio ar y Cynllun hwn, neu Gynllun unrhyw gorff cyhoeddus arall. Ni newidir y Cynllun hwn heb gytundeb y Comisiynydd ymlaen llaw;
  • sicrhau bod y sawl sydd yn ymwneud â llunio polisïau yn ymwybodol o’r Cynllun ac o gyfrifoldebau’r Cyngor o dan Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011;
  • sicrhau y bydd mesurau yn y Cynllun yn cael eu gweithredu wrth roi polisïau a mentrau newydd ar waith.
  • Pan ymgynghorir â’r Cyngor ar geisiadau cynllunio, bydd y Cyngor yn annog ymgeiswyr i godi arwyddion Gymraeg neu dwyieithog ar safleoedd megis swyddfeydd, busnesau a siopau ac archfarchnadoedd drwy gyfeirio at natur ieithyddol yr ardal.
  • Pan ymgynghorir â’r Cyngor ynglŷn ag enwau strydoedd, datblygiadau ac ystadau newydd bydd y Cyngor yn cefnogi defnyddio enwau Cymraeg, dwyieithog neu cynhenid.
  • Lle mai dim ond mân wahaniaeth sydd rhwng y sillafiad Cymraeg â’r Saesneg o enw lle, stryd, ward, neu gymuned bydd y Cyngor yn cefnogi mabwysiadu’r ffurf Gymraeg.

Bydd y Cyngor yn darparu gwasanaeth o’r un safon uchel ac yr un mor brydlon yn y ddwy iaith.

 

Gohebu ysgrifenedig (post ac e-bost)

  • Bydd y Cyngor yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
  • Ni fydd ateb gohebiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn achosi oedi.
  • Os derbynnir gohebiaeth yn y Gymraeg caiff ei ateb yn Gymraeg.
  • Bydd gohebiaeth yn dilyn sgwrs ffôn neu wyneb yn wyneb neu gyfarfod lle sefydlwyd mai’r Gymraeg yw dewis iaith person yn Gymraeg, er mae’n bosibl na chynhaliwyd y drafodaeth yn y Gymraeg.
  • Dechreuir pob gohebiaeth ag aelod o’r cyhoedd yn ei dewis/ddewis iaith lle bo hynny’n hysbys.
  • Os nad yw’n hysbys, bydd gohebiaeth ddechreuol y Cyngor yn ddwyieithog.
  • Bydd pob cylchlythyr a llythyr safonol i’r cyhoedd yn ddwyieithog.
  • Ble’n berthnasol, bydd papur pennawd swyddogol y Cyngor yn cynnwys datganiadau yn y ddwy iaith yn ei gwneud hi’n glir y croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

  • Bydd y Clerc yn rhoi cyfarchiad dwyieithog ac yn croesawu galwadau ffôn i’r swyddfa yn Gymraeg.
  • Pan ddaw swydd y Clerc yn wag bydd y Cyngor yn ei hysbysebu gan nodi fod sgiliau dwyieithog yn hanfodol er mwyn i’r Cyngor allu cynnig gwasanaeth dwyieithog i’r cyhoedd.
  • Croesewir cyfraniadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg mewn cyfarfodydd cyhoeddus a gynhelir gan y Cyngor. Gwneir hyn yn glir yn y papurau sy’n galw neu’n hysbysebu’r cyfarfod.
  • Bydd unrhyw gyfarfod cyhoeddus a gynullir i drafod y Gymraeg, addysg Gymraeg, treth y Cyngor neu wybodaeth am etholiad/isetholiad lleol yn ddwyieithog.
  • Bydd pob cyhoeddusrwydd am gyfarfod cyhoeddus o’r fath yn ddwyieithog.
  • Os yw’n hysbys ar gychwyn y cyfarfod bod pawb sy’n bresennol yn siarad Cymraeg, cynhelir y cyfarfod yn Gymraeg. ( MI FYDD Y CYFIEITHYDD YN CAEL EI RHYDDHAU AR ÔL 20 MUNUD)
  • Bydd y Cyngor yn darparu offer cyfieithu ar gyfer y di-Gymraeg, yn ôl y galw, mewn cyfarfod cyhoeddus a drefnir gan neu ar ran y Cyngor.
  • Pan fo’n hysbys i’r Cyngor fod aelod o’r cyhoedd yn dymuno siarad Cymraeg mewn cyfarfod cyhoeddus fyddai fel arall yn uniaith Saesneg, dylid parchu hynny trwy wneud y trefniadau cyfieithu priodol.
  • Wrth gychwyn y cyfarfod, bydd y Cadeirydd yn dwyn sylw mynychwyr at wasanaeth cyfieithu ar y pryd pan fo ar gael.
  • Bydd rhai Aelodau a siaradwr/wyr allweddol yn gwneud defnydd o’r Gymraeg mewn cyfarfodydd cyhoeddus a drefnir gan neu ar ran y Cyngor.
  • Bydd pob swyddog yn bresennol mewn cyfarfodydd cyhoeddus i groesawu’r cyhoedd ac i ddelio ag ymholiadau, cwestiynau neu sylwadau yn Gymraeg.
  • Bydd rhan fwyaf yr aelodau etholedig yn bresennol mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn gallu croesawu’r cyhoedd a delio ag ymholiadau, cwestiynau neu sylwadau yn Gymraeg.
  • Bydd unrhyw ddeunyddiau ysgrifenedig megis taflenni neu sleidiau sy’n cael eu defnyddio mewn cyfarfod cyhoeddus yn ddwyieithog a gynhyrchir gan y Cyngor.
  • Mae cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn Gymraeg.
  • Bydd pob hysbysiad a Rhaglen o gyfarfodydd y Cyngor yn ddwyieithog.
  • Bydd y cofnodion yn Gymraeg neu dwyieithog.
  • Mae’r Cyngor yn croesawu cyfarfodydd gyda’r cyhoedd yn y Gymraeg neu’r Saesneg, ac yn gofalu fod trefniadau yn cael eu gwneud i alluogi unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n dymuno gwneud hynny i drafod materion yn y Gymraeg gyda’r Clerc.
  • Bydd cyhoeddiadau a wneir ar ran y Cyngor ar y we yn Gymraeg neu’n Gymraeg a Saesneg.

 

Bydd enw’r Cyngor yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.

 

  • Bydd pob arwydd gwybodaeth a godir am y tro cyntaf neu yn lle hen arwydd ar eiddo’r Cyngor yn ddwyieithog, ac felly hefyd unrhyw arwyddion gwybodaeth gyhoeddus eraill y mae’r Cyngor yn gyfrifol amdanynt. Fe fydd y ddwy iaith yn ymddangos ochr yn ochr â’r fersiwn Gymraeg ar y chwith neu uwchben y Saesneg. Bydd maint, ansawdd, eglurder ac amlygrwydd y testun yn gyfartal yn y Gymraeg ac yn y Saesneg.
  • Bydd pob deunydd a anelir at y cyhoedd megis dogfennau, deunydd esboniadol neu ffurflenni grant, yn ddwyieithog gyda’r ddwy iaith yn ymddangos yn yr un ddogfen. Argreffir y ddau fersiwn ochr yn ochr lle bo’n bosibl er mwyn hwyluso croesgyfeirio, dosbarthu a chynnig dewis iaith. Eithriad prin i hyn fydd dogfennau tendr sydd a chynulleidfa darged arbenigol a chyfyngedig.
  • Os bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg yn cael eu cyhoeddi ar wahân, bydd y ddau fersiwn yn ymddangos ar yr un pryd, yn cael eu dosbarthu gyda’i gilydd a byddant yr un mor hawdd i’w cael.
  • Bydd materion hysbysebu a chyhoeddusrwydd yn ddwyieithog.
  • Bydd hysbysebion a hysbysiadau y Cyngor, - i’w gosod yn y wasg, ar hysbysfyrddau neu mewn unrhyw gyfrwng arall, yn ddwyieithog.
  • Bydd hysbysebion swyddi yn ymddangos yn ddwyieithog mewn cyhoeddiadau Saesneg/dwyieithog ac yn Gymraeg yn unig mewn cyhoeddiadau Cymraeg gyda throednodyn yn Saesneg.

  • Yn y manylion a roddir i’r rhai sy’n bwriadu ymgeisio am gyfraniad ariannol tuag at weithgareddau lleol, bydd y Cyngor yn gwneud yn glir fod angen i ymgeiswyr ddisgrifio sut y maent yn bwriadu adlewyrchu natur ieithyddol y gymuned a’u cynulleidfa yn y gweithgaredd(au) y maent yn gofyn am gefnogaeth ariannol tuag ato(ynt). Wrth bwyso a mesur ceisiadau, bydd y Cyngor yn sicrhau fod ymgeiswyr wedi adlewyrchu natur ieithyddol y gymuned a’u cynulleidfa yn briodol yn eu cais
  • Bydd y Cyngor hefyd yn hysbysu’r ymgeisydd am y menter iaith lleol all ddarparu cyngor a chymorth ymarferol ynglŷn â chynnwys dwyieithog y gweithgaredd, gan gynnwys gwybodaeth ar unrhyw grantiau sydd ar gael at y pwrpas hwn.
  • Bydd unrhyw drefniadau a wneir gan y Cyngor i ddefnyddio trydydd bartïon i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar ei ran yn cydymffurfio â gofynion penodol y Cynllun fel a amlinellwyd gan y Cyngor. Bydd y Cyngor yn nodi pa fesurau perthnasol o’r Cynllun y bydd angen i’r trydydd parti gydymffurfio â nhw yn y manylebau tendro neu gontract.
  • Bydd angen i’r trydydd parti gadarnhau ei fod wedi cydymffurfio â’r mesurau perthnasol o’r Cynllun trwy lythyr, adroddiad neu gyflwyno tystiolaeth.

  • Mae gan y Cynllun hwn gefnogaeth lawn y Cyngor.
  • Y Clerc fydd yn gyfrifol am weithrediad y Cynllun o ddydd i ddydd o fewn y Cyngor.
  • Yn ôl y galw bydd y Clerc yn sicrhau bod canllawiau a chyfarwyddiadau ar gael i bawb sydd yn ymwneud â gweithredu’r Cynllun.
  • Clerc y Cyngor fydd yn gyfrifol am fonitro gweithrediad y Cynllun.
  • Bydd y Cyngor yn derbyn Adroddiad blynyddol byr ar weithrediad y Cynllun, a fydd yn cael ei gyhoeddi’n lleol [e.e. y wasg leol, byrddau arddangos lleol, papur bro misol ayyb], ac anfonir copi ohono at Gomisiynydd y Gymraeg. Bydd y Cyngor hefyd yn gwahodd trigolion Cymraeg yr ardal i gynnig eu barn am y gwasanaeth a sut y gellir ei wella, trwy gadw copi cyhoeddus o’r Adroddiad yn y swyddfa, llyfrgell neu canolfan hamdden lleol.
  • Bydd y Cyngor yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r cynllun yn rheolaidd.

Dylid cyfeirio unrhyw sylwadau, cwynion neu awgrymiadau sy’n gysylltiedig â’r Cynllun i sylw:

Mrs Katherine Owen Clerc y Cyngor , Cyngor Tref Caernarfon , Adeilad yr Institwit, Allt Pafiliwn, Caernarfon. LL55 1AS

Bydd y Cyngor yn adolygu cynnwys y Cynllun hwn pob 3 blynedd.