Cartref > Amdanom Ni > Yr Institiwt

Yr Institiwt

Llogi Ystafelloedd.

Mae’r ystafelloedd canlynol ar gael i’w llogi yn Adeilad yr Institiwt.

Datganiad Cyfrinachedd Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon ar gyfer Defnyddwyr Ystafelloedd

Mae Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon yn parchu preifatrwydd ei ddefnyddwyr ac mae’n ymrwymedig i gydymffurfio â’r gyfraith a Rheoliadau Diogelu Data. Bwriad y datganiad cyfrinachedd hwn yw rhoi gwybod i chi sut bydd y manylion personol a ddarperwch yn y ffurflen gais, yn cael eu trin a’u diogelu gan Gyngor Tref Frenhinol Caernarfon.

Pam yr ydym yn casglu ac yn defnyddio manylion personol

Bwriad Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon yw casglu gwybodaeth am eich busnes, gan ofyn i chi hefyd ddarparu rhywfaint o wybodaeth bersonol megis, er enghraifft, manylion cyswllt sydd eu hangen ar swyddogion allweddol er mwyn archebu ystafell. Defnyddir y manylion personol a ddarperir gennych i gysylltu â chi drwy gydol y broses o logi ystafell ac i hawlio tâl am unrhyw wasanaethau neu gynhyrchion o eiddo’r Cyngor a ddefnyddiwyd gennych.

Diogelu eich manylion personol

Dim ond staff Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon fydd yn cael mynediad at eich manylion personol. Ni fyddwn yn gwerthu eich manylion personol i eraill. Nid ydym yn datgelu manylion personol amdanoch chi i unrhyw drydydd parti oni bai:

1. Eich bod chi yn gofyn neu’n rhoi caniatâd i ni wneud hynny;
2. Bod y wybodaeth yn cael ei datgelu i gwblhau trafodiad ar eich rhan;
3. Bod y wybodaeth yn cael ei darparu i gydymffurfio â’r gyfraith, rheoliadau perthnasol, gorchymynion llys neu subpoenas

Sut rydym yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi:

Yr unig wybodaeth bersonol y mae Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon yn ei chasglu a’i chadw yw’r manylion personol a roddwch i ni wrth gwblhau ein ffurflen archebu ac unrhyw wybodaeth arall a roddwch yng nghyswllt unrhyw gwestiynau a allai godi wrth i ni ddiweddaru ein cronfa ddata.

Mynediad at eich gwybodaeth bersonol

Pe baech chi am newid unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch chi, neu pe baech chi am i ni ei dileu yn gyfan gwbl, dylech e-bostio Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon.

Cadw a dileu eich manylion personol

Bydd Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon yn cadw eich manylion personol at ddibenion archwilio ac yn unol â’r polisi cadw. Os oes rhaid i chi gael cyfrif gyda ni, bydd eich manylion personol yn cael eu dileu oddi ar gronfa ddata ein defnyddwyr cymeradwy, er ei bod hi’n bosib y bydd gofyn i’n Hadran Gyllid gadw rhywfaint o wybodaeth ariannol am gyfnod o 6 blynedd, fel sy’n ofynnol gan y gyfraith

Rhagofalon

Mae Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon yn defnyddio mesurau gweinyddol a ffisegol rhesymol i ddiogelu eich manylion personol yn erbyn colled, lladrad a defnydd neu addasiad di-awdurdod

Cyfathrebu

Gall Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon gysylltu â’ch cwmni gan ddefnyddio manylion cyswllt a ddarparwyd gennych ar gyfer materion yn ymwneud â chaffael

Ymholiadau neu gwestiynau

Os oes gennych gwestiynau neu bryderon ynghylch polisïau ac arferion Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon ar gyfer trin eich manylion personol, gallwch e-bostio Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon ar townclerk@caernarfontowncouncil.gov.wales

Newidiadau i’r polisi hwn

Rydym yn cadw’r hawl i newid y datganiad cyfrinachedd hwn ar gyfer defnyddwyr a darpar ddefnyddwyr posibl ar unrhyw adeg. Mae ein defnydd o’ch gwybodaeth yn amodol ar y datganiad cyfrinachedd ar gyfer defnyddwyr a darpar ddefnyddwyr a fydd mewn grym adeg ei ddefnyddio

I brintio copi o'r Rheolau Cyfrinachedd Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon ar gyfer Defnyddwyr Ystafelloedd

Rheolau llogi ystafell yn Yr Institiwt, Caernarfon
Er mwyn gweithredu o fewn gofynion Tan a Diogelwch, a fuasech mor garedig a gweithredu o fewn y rheolau syml yma

RHAID i bob grwp sydd yn llogi unrhyw ystafell

  1. Sicrhau bod unigolyn apwyntiedig o fewn y grwp, yn gyfrifol am wybod faint o bobl sydd yn eich grwp ar unrhyw adeg ( dim yn perthnasol i Bore Coffi)
  2. Sicrhau bod pawb yn ymwybodol o Man Cyfarfod Argyfwng yr Institiwt- sef ar ben yr allt ,gan cadw'r lon yn glir i'r Gwasanaethau Brys
  3. Sicrhau bod pawb yn ymwybodol bydd prawf Larwm Tan ar fore Llun am 9.15 bob wythnos
  4. Rhaid tynnu unrhyw blygiau allan o'r wal cyn gadael yr ystafell ar ddiwedd eich cyfnod
  5. Rhaid cadw drysau ar gau, plis pediwch ei gadael yn agored
  6. Os ydych yn defnyddio Ystafell Peblig , a wnewch chi gadw'r drws allanol yn agored, gan defnyddio'r bachyn. Os ydych yn ddefnyddio'r gegin
    rhaid cadw'r drws yn agored a sicrhau bod yr "hatch" yn cael ei ail gloi

Os yw'r Larwm Tan yn canu

  1. Gofynnwch wrth bawb yn eich grwp i adael wrth y grisiau , yn drefnus ac heb oedi
  2. Unigolyn apwyntiedig i sicrhau eich niferoedd yn y man ymgynull,a gadael i aelod o staff wybod , er mwyn iddynt drafod unrhyw aelod coll i'r
    Gwasanaethau brys
  3. Os oes gennych unrhyw aelodau sydd yn dibynnol ar y Lifft ,cysylltwch a aelod o staff er mwyn mabwysiadu cynllun "buddy". Rhaid ich
    unigolyn apwyntiedig fod yn ymwybodol o'r trefniant

Damweiniau
Rhaid i staff yr adeilad dderbyn gwybodaeth am unrhyw ddamwain mor fuan a sydd bosibl er mwyn cwblhau gwaith papur priodol

I brintio copi o'r Rheolau Iechyd a Diogelwch yr adeilad

Ffurflen derbyn y rheolau

Ni chaniateir I blant ddefnyddio y ceginau.

Cyfrifoldeb yr huriwr yw gofalu nad os difrod yn digwydd i eiddo'r Cyngor, ac iddynt dalu am unrhyw gostau sy'n codi. Rhaid glanhau unrhyw lestri a chegin ar ol eu ddefnyddio.

Mae angen cael enw pob cysylltydd gyda rhif ffon a chyfeiriad, os gwelwch yn dda.

Fydd disgwyl I elusennau lleol dalu gradd cyffredinol heb law am fore coffi fydd am ddim.

Bydd cwmniau Preifat, adrannau y llywodraeth yn talu gradd uchaf.

Disgwylir taliad o fewn 6 wythnos o dyddiad llogi.