Cartref > Y Cyngor > Newyddion > Bardd y Dre'
Bardd y Dre'
Gwahodd ceisiadau Bardd y Dre'
Mae Cyngor Tref Caernarfon yn gwahodd ceisiadau ac enwebiadau ar gyfer rôl newydd Bardd Tref Caernarfon. Mae'r penodiad hwn, sy'n para hyd at fis Ionawr 2026 i gychwyn, yn chwilio am fardd sydd â diddordeb mewn cyfrannu at fywyd diwylliannol ein tref gan wasanaethu ein cymuned drwy gyfansoddi cerddi sy'n dal hanfod Caernarfon – ar achlysuron rheolaidd ac arbennig. Y nod yw hysbysu a diddanu'r gymuned wrth gofnodi a rhannu straeon unigryw Caernarfon.
Bydd Bardd Caernarfon yn creu o leiaf pum cerdd wreiddiol newydd bob blwyddyn, a’u rhannu mewn rhai digwyddiadau swyddogol Cyngor Tref Caernarfon a digwyddiadau cymunedol eraill.
Amodau
Hyd: Mae tymor y cyngor fel arfer yn 5 mlynedd felly ni fydd y penodiad yn hwy na hynny. Bydd y penodiad yn wreiddiol hyd at Ionawr 2026 gyda’r opsiwn o’i ymestyn hyd ddiwedd tymor y cyngor yn 2027
Cydnabyddiaeth: Mae’r cyngor wedi ymrwymo i dalu ffi o £1000 y flwyddyn am isafswm o bum cerdd comisiwn.
Datblygu’r rôl: Mae bwriad i gydweithio gyda chyrff eraill y dref i ychwanegu at y ffi honno er mwyn cynyddu’r gweithgaredd yn y gymuned a’r cerddi comisiwn.
Pwy sy'n Gymwys
Dylai ymgeiswyr fyw neu weithio’n lleol i Gaernarfon, ac yn gallu cyfansoddi cerddi yn Gymraeg mewn ieithwedd sydd yn hawdd ei ddeall. Gall yr ymgeiswyr ystyried eu hunain yn feirdd proffesiynol neu amatur, ond dylent nodi yn eu cais os yw eu gwaith wedi'i gyhoeddi ac, os felly, ble. Gallwn ystyried ceisiadau gan fwy nag un bardd sydd yn awyddus i gymryd y rôl ar y cyd.
I wneud cais, anfonwch y canlynol ar ffurf testun neu fideo:
- Enw llawn, cyfeiriad cartref, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn.
- Dwy gerdd enghreifftiol o'ch gwaith eich hun yr ydych eisoes wedi'u hysgrifennu, gan gynnwys os a ble y cawsant eu cyhoeddi.
- Datganiad byr yn crynhoi eich cysylltiad â Chaernarfon, pam fod gennych ddiddordeb yn y swydd, eich syniadau ar gyfer y rôl a'ch cefndir fel bardd.
Edrychwn ymlaen at dderbyn ceisiadau ac enwebiadau i benodi Bardd Tref Caernarfon angerddol ac ymroddedig a fydd yn chwarae rhan hanfodol wrth adrodd a rhannu'r straeon sy'n gwneud ein tref yn unigryw.
Cyfeiriwch eich cais at Bardd Tref Caernarfon a'i anfon drwy'r post neu drwy law at: Cyngor Tref Caernarfon, Adeilad yr Institiwt, Allt y Pafiliwn Caernarfon, LL55 1AS
Neu fel arall, anfonwch eich cais drwy e-bost at: clercydref@cyngortrefcaernarfon.llyw.cymru
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw Medi 30ain 2024.
Bydd panel o gynghorwyr yn asesu’r ceisiadau ac yn cysylltu gyda’r ymgeisydd llwyddiannus erbyn Hydref 18fed.