Cartref > Y Cyngor > Newyddion > Hysbyseb Swydd – Gweithiwr Cynnal a Chadw
Hysbyseb Swydd – Gweithiwr Cynnal a Chadw
Crynodeb Swydd
Math o gontract: Parhaol ond gyda Cyfnod Prawf o 6 mis
Patrwm gweithio: Llawn Amser
Cyflog: SCP Pwynt 1 – 4 (£20,258 - £21,189 y flwyddyn). Adolygir y raddfa ar ôl 3 blynedd.
Categori'r swydd: Gweithredol
Lleoliad: Caernarfon
Dyddiad Cau’r Hysbyseb: 5.00 p.m., dydd Mawrth, 31ain o Ionawr 2023
Gwybodaeth Bellach
Mae Cyngor Tref Caernarfon yn chwilio am Weithiwr Cynnal a Chadw i gasglu ysbwriel, chwynnu, cynnal eiddo ac ymgymryd â thasgau glanweithdra.
Bydd y swydd wedi ei leoli drwy ardal y Cyngor sef wardiau Cadnant, Canol y Dref, Hendre, Menai a Peblig. Disgwylir deilydd y swydd dreilio cyfran o’i amser / hamser yn gweithio ym Mharc Coed Helen.
Bydd cydweithrediad agos gyda Tîm Tacluso Ardal Ni Cyngor Gwynedd.
Mae’r Swydd Ddisgrifiaf yn amlinellu’r prif ddyletswyddau.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg a Saesneg yn hanfodol.
Am gopi o’r swydd ddisgrifiad a manylion personol, neu am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Sion Wyn Evans , Clerc Cyngor Tref Caernarfon ar 01286 672 943 neu ar clercydref@cyngortrefcaernarfon.llyw.cymru
Dyddiad Cau – 5.00 p.m., dydd Mawrth, 31ain o Ionawr 2023
Dylech anfon eich CV at Sion Wyn Evans, Clerc y Dref, Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon, Adeilad yr Institiwt, Allt Pafiliwn, Caernarfon, LL55 1AS neu i clercydref@cyngortrefcaernarfon.llyw.cymru