Cartref > Y Cyngor > Newyddion > Hysbysiad o Gyfethol - Ward Peblig

Hysbysiad o Gyfethol - Ward Peblig

RHODDIR HYSBYSIAD TRWY HYN fod Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon yn bwriadu Cyfethol 1 aelod i lenwi'r sedd wag sydd ar gael ar gyfer Cynghorydd yn Ward Peblig.

Ceisir datganiadau o ddiddordeb gan aelodau o'r cyhoedd sy'n cyflawni'r meini prawf canlynol ac sydd a diddordeb mewn cynrychioli eu cymuned ar y Cyngor Cymuned dywededig. Rhaid bod yn ddinesydd Prydain, y Gymanwlad, lwerddon neu'r Undeb Ewropeaidd ac yn 18 oed neu'n hyn, ac yn cyflawni o leiaf un o'r meini prawf canlynol:

  • wedi'ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal a enwir uchod; neu
  • yn ystod y cyfan o'r 12 mis diwethaf, wedi bod yn berchennog neu'n denant tir neu safle arall yn y gymuned a enwir uchod; neu
  • wedi bod a'ch prif neu'ch unig weithle yn ystod y 12 mis diwethaf yn y gymuned a enwir uchod; neu
  • rydych wedi byw yn y Gymuned, neu o fewn 4.8 cilometr ohoni yn ystod y cyfan o'r 12 mis diwethaf.¹

Os ydych yn dymuno cael eich ystyried i gael eich cyfethol ar gyfer y sedd wag, neu'n dymuno cael rhagor o wybodaeth ynghylch r61 Cynghorwyr Cymuned, cysylltwch a'r Swyddog Priodol, Clerc y Cyngor Tref: Dewi Jones, Clerc y Dref, Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon, Adeilad yr lnstitiwt, Allt Pafiliwn, Caernarfon, LL551AS

Rhif ffon: 01286 672943 / E-bost: clercydref@cyngortrefcaernarfon.llyw.cymru erbyn 5.00 p.m., dydd Mercher, Chwefror 12fed, 2025.

Hysbysiad o Gyfethol - Ward Peblig (PDF)