Cartref > Y Cyngor > Newyddion > Rhybudd Cyfethol Ward Cadnant

Rhybudd Cyfethol Ward Cadnant

Mae’r Cyngor Tref yn awyddus i gyfethol aelod ar Ward Cadnant.


Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, Adran  116

RHODDIR HYSBYSIAD TRWY HYN fod Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon yn bwriadu Cyfethol 1 aelod i lenwi’r sedd wag sydd ar gael ar gyfer Cynghorydd yng Nghymuned (Ward) Cadnant

Ceisir datganiadau o ddiddordeb gan aelodau o’r cyhoedd sy’n cyflawni’r meini prawf canlynol ac sydd â diddordeb mewn cynrychioli eu cymuned ar y Cyngor Cymuned dywededig. Rhaid bod yn ddinesydd Prydain, y Gymanwlad, Iwerddon neu’r Undeb Ewropeaidd ac yn 18 oed neu’n hŷn, ac yn cyflawni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:

  • wedi’ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal a enwir uchod; neu
  • yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf, wedi bod yn berchennog neu’n denant tir neu safle arall yn y gymuned a enwir uchod; neu
  • wedi bod â’ch prif neu’ch unig weithle yn ystod y 12 mis diwethaf yn y gymuned a enwir uchod; neu
  • rydych wedi byw yn y Gymuned, neu o fewn 4.8 cilometr ohoni yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf.

Os ydych yn dymuno cael eich ystyried i gael eich cyfethol ar gyfer y sedd wag, neu’n dymuno cael rhagor o wybodaeth ynghylch rôl Cynghorwyr Cymuned, cysylltwch â’r Swyddog Priodol, Clerc y Cyngor Cymuned ar: 

Sion Wyn Evans, Clerc y Dref, Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon, Adeilad yr Institiwt, Allt Pafiliwn, Caernarfon, LL55 1AS 

Rhif ffôn: 01286 672943 

E-bost: clercydref@cyngortrefcaernarfon.llyw.cymru

erbyn 5.00 p.m., dydd Llun, yr 22ain o Awst

Dyddiedig y 26ain diwrnod hwn o Orffennaf 2022


Mae rhai pobl penodol wedi’u hanghymhwyso rhag ymgeisio, yn eu plith swyddogion cyflogedig y Cyngor, unrhyw un sy’n destun gorchmynion cyfyngu methdalwyr a’r rheiny sy’n destun dedfrydau o garchar yn ddiweddar.

Rhybudd Cyfethol (pdf)