Cartref > Y Cyngor > Newyddion > SEDD WAG ACHLYSUROL – WARD PEBLIG
SEDD WAG ACHLYSUROL – WARD PEBLIG
RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN o sedd wag achlysurol mewn swydd cynghorydd yn ward PEBLIG ar GYNGOR TREF GAERNARFON.
Cynhelir etholiad i lenwi’r sedd wag os cyflwynir cais ysgrifenedig am etholiad sy’n cynnwys llofnod deg etholwr o’r ward uchod i’r Swyddog Canlyniadau, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH o fewn y cyfnod sy’n diweddu am 12.00pm ar ddydd Llun,
27 Ionawr 2025.
Os na dderbynnir cais am etholiad, llenwir y sedd wag gan y Cyngor Tref.
Sedd Wag - Ward Peblig (pdf)