Cartref > Y Cyngor > Newyddion > Teyrnged i’r cyn Faer Hywel Wyn Roberts

Teyrnged i’r cyn Faer Hywel Wyn Roberts

Mae cynghorwyr tref wedi talu teyrnged i Hywel Wyn Roberts, cyn-gynghorydd a Maer Tref Caernarfon 2009-2010 a fu farw yn 84 oed ddydd Mercher.

Roedd Hywel hefyd yn aelod blaenllaw a Llywydd Anrhydeddus o Gymdeithas Dinesig Caernarfon ac yn arbenigwr mewn hanes teulu ond fel “Cynghorydd unigryw a chraffwr o’r radd flaenaf” y mae’r Cynghorydd Ioan Thomas yn ei gofio, a llawer o’r cynghorwyr eraill yn rhannu yr un farn ac yn cydnabod ei ddylanwad arnynt.

“Mi oedd Hywel yn gefnogol iawn i mi ar ddechra fy nhaith fel Cynghorydd, “ meddai Dawn Lynne Jones “Mi o’n i yn lwcus iawn i gael cydweithio gydag ef ar grwp llygaid Maesincla ac fel Llywodraethwr Ysgol Maesincla. Mi oedd on darllen bob polisi a dogfen yn drylwyr. Dyn addfwyn a chadarn.”

“Roedd Hywel yn enghraifft wych o gynghorydd da.” dywedodd Maria Sarnacki, maer Caernarfon 2021-2023 amdano. “Cymerodd y rôl o ddifrif. Fel Dawn dysgais lawer ganddo. Roeddwn yn ffodus i eistedd wrth ei ymyl yn y cyfarfodydd. Sicrhaodd ei fod yn gwneud ei waith cartref cyn pob cyfarfod.”

Mae’r cynghorydd Ann Hopcyn hefyd yn talu teyrnged i ba mor drylwyr oedd Hywel wrth baratoi at gyfarfodydd y cyngor, “Byddai nid yn unig wedi darllen y Gymraeg yn fanwl ond hefyd wedi darllen y Saesneg ac yn codi unrhyw anghysonderau rhwng y fersiynau.” meddai, ac mae’n nodi hefyd ei waith yng nghangen lleol Plaid Cymru “Roedd bob amser yn annog y gangen i gynllunio a pharatoi mewn da bryd ar gyfer etholiadau. Credaf fod y gangen wedi llwyddo yn hynny o beth yn yr etholiadau tref a Gwynedd diweddaraf a byddai wrth ei fodd yn gwybod fod y cyngor tref yn 100% i Blaid Cymru.”

Bu Hywel yn gwasanaethu fel cynghorydd tan 2016 ac fe hoffai’r Cyngor estyn pob cydymdeimlad i Margaret, Ceri, yr wyrion a’r wyresau a holl deulu a ffrindiau Hywel yn eu profedigaeth.

Cyn Faer Hywel Wyn Roberts