Cartref > Ein Cymuned > Hanes

Hanes

Y mae yna ymdeimlad o hanes ac o gyfnodau cyn-hanes yn treiddio trwy Gaernarfon. Pan gyrhaeddodd Edward I yma yn 1284, yr oedd wedi gwirioni efo Segontium, y gaer a oedd ym meddiant y Rhufeiniaid hyd at 383 O.C. Yn yr un modd, yr oedd y ffaith fod ei ragflaenydd Normannaidd, larll Hugh, wedi adeiladu mwnt a beili yng Nghaernarfon yn 1086 O.C. wedi cael cryn argraff arno - a hynny, mae'n debyg, ar safle'r castell presennol lle cynhaliodd Llywelyn Fawr ei lys yn y drydedd ganrif ar ddeg.

Mae dadansoddiad o'r dref gaerog yn awgrymu mai cynllun hannercylch oedd iddi, yn mesur tri chan metr ar ei thraws fel Avebury, ac felly yn gyn-hanesyddol.

Yng ngeiriau'r Athro Dewi Prys Thomas, a oedd yn bensaer ymgynghorol ar gyfer Adeiladau'r Cyngor Sir o fewn waliau'r dref, aeth Edward I ati yn rhodresgar i 'gymryd mantell' yr Ymerawdwr Cwstennin. Mae'n debyg fod hyn yn wir oherwydd fe gysylltodd Segontium a mwnt Iarll Hugh trwy linell sylfaen a ddefnyddiodd i osod allan ei gastell a'r dref, a thrwy hynny gysylltu llinach y Rhufeiniaid, y Cymry, a'r Normaniaid.

Cyn cyrraedd Caernarfon, roedd Edward eisoes wedi cynllunio ac adeiladu niter o drefi caerog yn Ffrainc. Mae'n debygol i Gaernarfon gael ei phatrymu ar Montpazier, gan gael ei rhannu yn 64 o leiniau adeiladu neu fwrdeisi - pob un ohonynt yn mesur 80 troedfedd wrth 60 troedfedd. Enghraifft dda o hyn yw'r darn tir lle adeiladwyd Neuadd y Farchnad yn Stryd y Plas.

Yng Nghaernarfon, mae'n anodd iawn anwybyddu hanes.

Ffynhonnell: Caernarfon 2000 ~ Nodweddion mewn Tref Frenhinol.

Am fwy o wybodaeth am hanes Caernarfon ewch i’r wefan www.caernarvontraders.com. Mae yno wybodaeth eang a ffeithiol am hanes Caernarfon ac hefyd mae adran “Caernarfon Ddoe / Caernarfon’s Yesterdays” gyda erthyglau diddorol gan hanesydd cybnabyddedig Caernarfon, Mr T. Meirion Hughes. Os oes ganddoch gwestiynnau hanesyddiol am Gaernarfon, mae Mr Hughes yn barod i baratoi atebion ar y wefan yma.

Pedwar mis ar ôl geni Tywysog eyntaf Cymru yng Nghaernarfon - 1284 O.C. - rhoddodd Edward I siarter i'r dref, yn cyflwyno amrywiaeth o hawliau a breintiau i'r trigolion a'r bwrdeisiaid. Dyma rydd-gyfieithiad o destun y siarter wreiddiol:

Edward, trwy Ras Duw, Brenin Lloegr, Arglwydd Iwerddon a Dug Aquitaine: I'r Archesgobion, Esgobion, Abadau, Prioriaid, leirll, Barwniaid, Ustusiaid, Siryfion, Profostiaid, Gweinidogion a'n holl feiliaid a gweision ffyddlon, Cyfarchion.

Gwybyddwch ein bod ni yn ewyllysio ac yn caniatau, i ni a'n hetifeddion a'n holynwyr, y bydd ein tref Caernarfon o hyn ymlaen yn Fwrdeisdref rydd ac y bydd ein gwyr o'r dref honno yn Fwrdeisiaid rhydd.

Ac y bydd Cwnstabl ein Castell yng Nghaernarfon ar hyn o bryd, yn Faer y Fwrdeisdref honno, wedi tyngu i ni yn ogystal ag i'r dywededig Fwrdeisiaid, yr hwn a dyngodd yn gyntaf i ddiogelu ein Hawliau, a fydd yn tyngu i'r union Fwrdeisiaid ar Efengyl Sanctaidd Duw, y bydd yn diogelu i'r union Fwrdeisiaid hynny y Rhyddfreiniau a roddwyd gennym gan gyflawni'n ffyddlon y pethau hynny a berthyn i swydd Maer yn y Fwrdeisdref honno.

Caniatawn hefyd y bydd i'r Bwrdeisiaid bob blwyddyn, adeg Gwyl Sant Mihangel, ethol o'u plith eu hunain, ddau Feili addas a digonol, gan eu cyflwyno i'r dywededig Gwnstabl, fel eu Maer a fydd, ym mhresenoldeb y dywededig Faer a Bwrdeisiaid, yn tyngu llw o ffyddlondeb i gyflawni swyddi Beiliaid.

Ymhellach, yr ydym yn ewyllysio ac yn caniatau hefyd y bydd gan y Bwdeisiaid a enwyd uchod eu carchar rhydd, yn y Fwrdeisdref a enwyd, ar gyfer pob trosedd o'i mewn, ac eithrio mewn achosion o berygl i Fywyd ac Aelodau; mewn achosion o'r fath, caiff pawb -yn cynnwys Bwdeisiaid ac eraill - eu carcharu yn ein castell yno. fodd bynnag, os caiff y dywededig Fwrdeisdref eu hamau neu eu cyhuddo o unrhyw drosedd, mewn unrhyw achos o'r fath, ewyllysiwn, ar yr adeg honno, na chânt eu carcharu, cyn belled ag y gallant ganfod Meichniaeth da a digonol, i sefyll ger bron ein Prif Ustus, neu eraill y bydd ein Hustusiaid yn apwyntio yno.

Yn ogystal, caniatawn i'r dywededig Fwrdeisiaid fod yr holl Diroedd sydd gan y Fiordeisdref ar hyn o bryd, yn rhydd o'r Deddfau Warren a Fforest; ac na fydd lddewon yn cael preswylio yn y Fwrdeisdref ddywededig ar unrhyw adeg.

Ewyllysiwn hefyd, a chaniatawn i ni a'n Hetifeddion, y caiff y Bwrdeisiaid bob Rhyddfraint a Thollau rhydd eraill a fynegwyd uchod, yn ffafrioiol ac yn heddychlon, heb rwystr nac uchel-gyhuddiad yn ein herbyn ni na 'n Hetiteddion, nac unrhyw un o'n Hustusiaid, Siryfion, a Beiliaid eraill neu unrhyw Weinidog, fel a nodwyd.
Tystiwyd gan y rhain: yr Hybarch Dad Robert, Esgob Caerfaddon a Wells, ein Canghellor; Richard de Burgh, Iarll Ulster; Thomas de Calre; Richard de Brus; Reginald de Grave; Nicholas de Segrave; Peter de Chaumpuent; John de Mantalto; ac eraill. Rhoddwyd o dan ein llaw, yn y Fflint, yr wythfed dydd o Fedi yn neuddegfed blwyddyn ein Teurnasiad (1284).

Cadarnhawyd y siarter hon fwy nag unwaith gan frenhinoedd a breninesau ar ôl hynny. Yn gyntaf, gan Edward Caernarfon, pan oedd yn dal yn Dywysog Cymru, ar 25 Mai, 1306, pan gyfeiriodd ato'i hun fel 'Edward, mab yr ardderchocaf frenin, Tywysog Cymru, Iarll Caer' a.y.y.b. Fe'i cadarnhawyd hefyd gan Edward III yng Nghroes Sanctaidd Waltham yn 1331; gan Rhisiart II yn San Steffan yn 1379; gan Harri V, pan oedd yn Dywysog Cymru, yn Kensington yn 1400; gan Harri VI, yn San Steffan yn 1425; gan Edward IV yn San Steffan yn 1468; gan Edward VI yn San Steffan yn 1547, a chan Elisabeth yn San Steffan yn 1559.

Ailadrodd geiriau'r ddogfen Edwardaidd wreiddiol yn unig a wnâi'r siarteri cadarnhau hyn.
Ffynhonnell: Caernarfon 2000 ~ Nodweddion mewn Tref Frenhinol.

Ymwadiad -Nad yw gwaharddiad Siarter Edward 1 yn dal mewn grym (dogfen hanesyddol yn unig yw hi)