Cartref > Amdanom Ni > Cyfrifoldebau

Cyfrifoldebau

Mae Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon (y Cyngor Tref) efo 17 Aelod (Cynghorwyr) sy'n cynrychioli’r 4  Ward yn y dref, sef Peblig (5 aelod), Seiont (4 aelod, Menai (4 aelod) a Cadnant (4 aelod). 

Mae etholiadau i gynghorau cymuned a thref yng Nghymru yn cymryd lle bob 4 - 5 mlynedd, a bydd yr etholiadau nesaf ym mis Mai 2022. 

Mae gan y Cyngor nifer o bwyllgorau, sef: 

  • Cyngor Llawn (yn cyfarfod ar y nos Fawrth gyntaf o bob mis (heblaw am fis Awst); 
  • Pwyllgor Cynllunio; 
  • Pwyllgor Adloniant; 
  • Pwyllgor Cyllid; 
  • Pwyllgor Gwaith; 
  • Pwyllgor Personél.  

Rhestrir prif ddyletswyddau'r Cyngor isod, ond nid yw’r dyletswyddau’n gyfyngedig i’r rhain: 

  • rhoi cymorth ariannol, gweinyddol ac ysgrifenyddol i i brosiectau yn y dref;   
  • rheoli Adeilad Yr Institiwt;  
  • cynnal a chadw rhai cysgodfanau bysus; 
  • rheoli nifer o ddigwyddiadau blynyddol a gynhelir gydol y flwyddyn ar draws y dref, er enghraifft Sul y Cofio, Cystadleuaeth Gerddi; 
  • glanhau toiledau Mynwent newydd Llanbeblig; 
  • cydweithio i lanhau strydoedd a thorri gwair; 
  • gosod goleuadau Nadolig yn y dref;  
  • cynnal a chadw Cofeb y dref. 

Mae'r Cyngor yn ethol Maer a Dirprwy Faer  bob blwyddyn, ac mae aelodau’r staff yn eu cynorthwyo i redeg gwasanaethau’r Cyngor. 

Mae gan y Cyngor gynrychiolwyr ar nifer o gyrff perthnasol yn y dref a thu hwnt, sy’n ceisio cyflawni cynlluniau sydd yn tyfu economi’r dref. O edrych yn ehangach na hyn, mae Caernarfon wedi ei gyfeillio gyda Landerneau (Llydaw) a Threlew (Patagonia). 

Ar y funud mae’r Cyngor yn gweithio ar brosiect economi cylchol i ail-gylchu ac ail ddefnyddio adnoddau er budd y gymuned a gobeithir mai un o ddeilliannau’r prosiect fydd cynnydd yn y niferoedd sy’n ymweld â Stryd y Llyn. Enw’r cynllun yw O Law i Law (mae siop O Law i Law wedi cymryd drosodd adeilad yr hen Holland & Barrett), a cheir manylion am y cynllun O Law i Law yma.

Mae Adroddiad Blynyddol y Cyngor yn manylu ar lawer o weithgareddau’r Cyngor Tref. Mae’r adroddiad blynyddol ar gyfer 2020/21 i’w weld yma.


Yr awdurdod lleol, sef Cyngor Gwynedd, sy'n gyfrifol am bethau nad ydynt yn cael eu nodi yma, er enghraifft tai ac ail-gylchu, Mae dolen i gwefan  Cyngor Gwynedd ar waelod y dudalen yma.