Cartref > Y Cyngor > Newyddion a Hysbysiadau > Cyhoeddi cyfrifon archwiliedig ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025

Cyhoeddi cyfrifon archwiliedig ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025

Mae Rheoliad 15(5) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'u diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol erbyn 30 Medi 2025, I Cyngor Tref Caernarfon gyhoeddi ei ddatganiadau cyfrifeg ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025 ynghyd ag unrhyw dystysgrif, barn, neu adroddiad a roddir, a roddwyd neu a wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol.

Mae'r datganiadau cyfrifyddu, ar ffurf ffurflen flynyddol, wedi eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Fodd bynnag, nid yw'r Archwilydd Cyffredinol wedi cyhoeddi ei farn a'i adroddiad archwilio eto ac felly cyhoeddir y cyfrifon cyn i'r archwiliad ddod i ben. Cyhoeddir y ffurflen flynyddol ynghyd ag adroddiad a barn yr Archwilydd Cyffredinol pan fydd yr archwiliad wedi'i gwblhau.

Dewi Jones, Clerc y Dref.
Dyddiad 30/09/25

Cyhoeddi Cyfrifon Archwiliedig