Cartref > Y Cyngor > Newyddion a Hysbysiadau > Hysbysiad o benodi o'r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
Hysbysiad o benodi o'r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
Cyngor Tref Caernarfon
Blwyddyn ariannol sy'n dod i ben 31 Mawrth 2025
1. Dyddiad cyhoeddi 13/06/2025
2. Bob blwyddyn mae'r cyfrifon blynyddol yn cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae gan unrhyw berson sydd â diddordeb gyfle i archwilio a gwneud copïau o'r cyfrifon a'r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati sy'n ymwneud â nhw am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2025, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:
Dewi Jones,
Clerc y Dref,
Cyngor Tref Caernarfon,
Adeilad yr Institiwt y Pafiliwn,
Caernarfon,
LL55 1AS
rhwng oriau 9yb a 5yp o ddydd Llun i ddydd Gwener yn dechrau ar 01 Gorffennaf 2025 ac yn gorffen ar 28 Gorffennaf 2025
3. O 15 Medi 2025, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi'i gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a'u cynrychiolwyr hefyd:
- yr hawl i holi'r Archwilydd Cyffredinol am y cyfrifon.
- yr hawl i fynychu gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a gwneud gwrthwynebiadau i'r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad i'r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o'r hysbysiad ysgrifenedig i'r cyngor hefyd.
Gellir cysylltu â'r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cyngor Cymuned, Archwilio Cymru, 1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu drwy e-bost yn communitycouncilaudits@audit.wales.
Mae'r archwiliad yn cael ei gynnal o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Hysbysiad o benodi o'r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr