Cartref > Y Cyngor > Newyddion a Hysbysiadau > Hysbysiad o Gyfethol - Ward Peblig
Hysbysiad o Gyfethol - Ward Peblig
RHODDIR HYSBYSIAD TRWY HYN fod Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon yn bwriadu Cyfethol 1 aelod i lenwi’r sedd wag sydd ar gael ar gyfer Cynghorydd yn Ward Peblig.
Ceisir datganiadau o ddiddordeb gan aelodau o’r cyhoedd sy’n cyflawni’r meini prawf canlynol ac sydd â diddordeb mewn cynrychioli eu cymuned ar y Cyngor Cymuned dywededig. Rhaid bod yn ddinesydd Prydain, y Gymanwlad, Iwerddon neu’r Undeb Ewropeaidd ac yn 18 oed neu’n hŷn, ac yn cyflawni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:
- wedi’ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal a enwir uchod; neu
- yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf, wedi bod yn berchennog neu’n denant tir neu safle arall yn y gymuned a enwir uchod; neu
- wedi bod â’ch prif neu’ch unig weithle yn ystod y 12 mis diwethaf yn y gymuned a enwir uchod; neu
- rydych wedi byw yn y Gymuned, neu o fewn 4.8 cilometr ohoni yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf.1
Os ydych yn dymuno cael eich ystyried i gael eich cyfethol ar gyfer y sedd wag, neu’n dymuno cael rhagor o wybodaeth ynghylch rôl Cynghorwyr Cymuned, cysylltwch â’r Swyddog Priodol, Clerc y Cyngor Tref: Dewi Jones, Clerc y Dref, Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon, Adeilad yr Institiwt, Allt Pafiliwn, Caernarfon, LL55 1AS Rhif ffôn: 01286 672943 / E-bost: clercydref@cyngortrefcaernarfon.llyw.cymru erbyn 5.00 p.m., dydd Mawrth, Hydref 21ain, 2025.
Dyddiedig y 7fed diwrnod hwn o Hydref 2025