Cartref > Y Cyngor > Newyddion a Hysbysiadau > Swydd Wag - Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau

Swydd Wag - Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau

NJC SCP 18–20 (£16.35–£16.90 yr awr ar hyn o bryd): 12 awr yr wythnos.

Ymunwch ag un o Gynghorau Tref mwyaf uchelgeisiol Cymru

Mae Cyngor Tref Caernarfon yn falch ein bod fel un o'r nifer gymharol fach o gynghorau sy'n gymwys i arfer y Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol yn meddu ar yr hyder a'r gallu i gyflawni prosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cymuned.

Mae prosiectau diweddar wedi cynnwys adfer Adeilad yr Institiwt, gwelliannau bioamrywiaeth ym Mharc Coed Helen, prosiect ailddefnyddio cymunedol O Law i Law ac ystod o ddigwyddiadau dinesig a chymunedol.

Rydym bellach yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau brwdfrydig a chreadigol i’n helpu i adrodd ein stori a chyflawni ac ehangu rhaglen gynyddol y Cyngor o ddigwyddiadau dinesig a chymunedol.

Ynglŷn â'r rôl

Mae'r swydd amrywiol hon yn cyfuno cyfathrebu, cysylltiadau â'r cyfryngau, rheoli digwyddiadau a gweinyddu pwyllgorau.

Mae'r rôl yn cynnig ymreolaeth sylweddol a'r cyfle i wneud cyfraniad gweladwy i'r gymuned.

Beth rydyn ni'n chwilio amdano?

Rydyn ni'n chwilio am rywun sy'n gyfathrebwr rhagorol yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae profiad o drefnu digwyddiadau yn hanfodol, tra byddai profiad blaenorol o fewn llywodraeth leol, gweinyddiaeth pwyllgorau, cysylltiadau cyhoeddus neu reoli cyfryngau cymdeithasol yn fanteisiol.

Trefniadau gweithio

Disgwylir i'r rôl gynnwys presenoldeb yn Swyddfeydd y Cyngor ar ddau ddiwrnod yr wythnos, ynghyd â mynychu cyfarfodydd pwyllgor gyda'r nos a gweithio gyda'r nos a phenwythnos achlysurol i gefnogi digwyddiadau dinesig. Bydd y Cyngor yn fodlon trafod trefniadau gweithio hyblyg gan gynnwys Flexi a TOIL gyda’r ymgeisydd llwyddianus. Mae'r swydd yn cynnig pensiwn llywodraeth leol.

Eisoes yn gweithio mewn llywodraeth leol?

Byddem croesawu yn arbennig ceisiadau gan ymgeiswyr sydd eisoes wedi'u cyflogi yn rhanamser yn y sector cynghorau lleol sy'n awyddus i ehangu eu horiau.

Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle gwych i ehangu eich profiad o fewn cyngor blaengar ac uchel ei barch tra'n aros o fewn llywodraeth leol.

Sut i wneud cais

Am drafodaeth anffurfiol ffoniwch Glerc y Dref ar 01286 672943. Manyleb person, disgrifiad swydd a ffurflen gais drwy e-bost i clercydref@cyngortrefcaernarfon.llyw.cymru.

Dyddiad Cau: 07/09/26

Disgwylir trefnu cyfweliadau wythnos yn dechrau: 14/09/26

Mae Cyngor Tref Caernarfon wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned.